Pencampwyr Ni Ferched Cymru yn sicrhau cyfleoedd chwaraeon newydd i fenywod a merched

English Cymraeg

Mae pum tîm o bobl ifanc o bob rhan o Gymru sy’n graff o ran busnes wedi sicrhau bron £80,000 o fuddsoddiad i gyflwyno sesiynau gweithgarwch corfforol/chwaraeon newydd gyda’r nod o ddenu diddordeb mwy o fenywod a merched mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Roedd y timau – a oedd yn dod o sefydliadau yr ymddiriedir ynddyn nhw’n lleol o bob rhan o Gymru – yn cymryd rhan mewn sesiwn sylw newydd ar ffurf ‘Dragon’s Den’ a ddatblygwyd gan StreetGames ac a noddwyd gan Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru (SEWSCAP). Roedd disgwyl i’r timau gynnal ymchwil cymheiriaid yn eu cymunedau ynglŷn â sut olwg sydd ar gynnig chwaraeon/corfforol deniadol i ferched a menywod ifanc, a chreu cynllun busnes yn cynnig sut i greu a chyflwyno prosiect addas. Roedd rhaid i gynigion pob un o’r timau ateb yr un nod – sef gweithio i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymysg menywod a merched.

Mae diffyg cyfranogiad mewn chwaraeon ymysg merched a menywod ifanc 11-18 oed yn bryder cynyddol. Yn ôl arolwg newydd gan Women in Sport, mae mwy nag 1 miliwn o ferched a oedd yn ystyried eu bod yn hoff iawn o chwaraeon yn yr ysgol gynradd yn colli diddordeb mewn gweithgarwch corfforol yn eu harddegau. Yn ôl yr astudiaeth, ymhlith ymatebwyr rhwng 11 ac 16 oed, dim ond 37% o ferched oedd yn mwynhau gweithgarwch corfforol o gymharu â 54% o fechgyn. Erbyn 17 i 18 oed, dim ond tair o bob 10 merch fyddai’n disgrifio’u hunain fel rhai sy’n hoff iawn o chwaraeon, o gymharu â chwech o bob 10 bachgen. Roedd rhaid i gynllun busnes pob prosiect ystyried yr her hon, gan ganolbwyntio ar ddarparu llwybr i fenywod a merched gymryd rhan.

Er mwyn sicrhau’r cyllid y gofynnwyd amdano, roedd rhaid i bob tîm roi eu cynllun busnes ar brawf yn erbyn tîm o ‘Ddreigiau’ a oedd yn cynnwys Kevin Shackson a Penny Haywood o SEWSCAP; a Karen Keohane a Gareth Winmill o StreetGames. Eu tasg oedd amddiffyn eu cynlluniau rhag croesholi’r arbenigwyr, a dangosodd pob un o’r timau fod ganddyn nhw gynllun clir i gyflawni dros eu cymunedau lleol. Dosbarthwyd cyfanswm o bron i £80,000 ar draws y 5 prosiect.

Clwb Bechgyn a Merched Bettws (Pen-y-bont ar Ogwr)

Fel pobl ifanc a oedd wedi manteisio ar brofiadau StreetGames o’r blaen, roedd Lara, Carrie, Grace a Morgen am gymryd rhan ym mhrosiect ymchwil cymheiriaid Ni Ferched i gynyddu’r cyfleoedd i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ym Mettws, Pen-y-bont ar Ogwr. Cynhaliodd y grŵp ymchwil yn eu clwb ieuenctid ynghylch sut olwg a allai fod ar gynnig chwaraeon deniadol. Roedd eu cynnig o ganlyniad yn cynnwys sesiynau bob pythefnos mewn cyfleuster pwrpasol i ferched ddysgu dawnsio a chodi hwyl, a derbyniodd £19,365.73 o fuddsoddiad gan SEWSCAP.

Bydd y cyllid hwn yn caniatáu iddyn nhw gludo merched i’r stiwdio ddawns ac yn ôl bob pythefnos, yn ogystal â darparu cit, nwyddau Ni Ferched/SEWSCAP a bwyd i’r holl gyfranogwyr er mwyn annog presenoldeb rheolaidd. Bydd y merched i gyd hefyd yn cychwyn ar gyrsiau arweinyddiaeth i’w grymuso i gyflwyno sesiynau eu hunain yn eu cymuned.

Academi Gymnasteg y Cymoedd/Valleys Gymnastics Academy (Caerffili)

Mae Academi Gymnasteg y Cymoedd (VGA) yn glwb gymnasteg cymunedol sy’n darparu prosiectau allgymorth yn rheolaidd yn yr ardal leol. Mae’r ymchwilwyr cymheiriaid, Olivia, Mia, Carys, Charlie a Maddy, yn athletwyr, arweinwyr ifanc a hyfforddwyr o fewn y clwb ac roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig cymryd rhan yn y prosiect hwn i weithio tuag at leihau’r bwlch rhwng y rhywiau mewn chwaraeon.

Canfu ymchwil a gynhaliwyd yn VGA ac yn y gymuned ehangach fod merched am allu dewis gwahanol weithgareddau a chael mynediad at amrywiaeth ehangach o chwaraeon. Felly aeth y tîm ati i chwilio am gyllid i’w galluogi i gynnig sesiynau aml-chwaraeon wythnosol dan arweiniad staff a hyfforddwyr cwbl gymwys, a dyfarnwyd £10,750 iddyn nhw.

Mae’r sesiynau wythnosol hyn bellach ar waith, gan gynnig ystod o wahanol weithgareddau gyda phwyslais ar ddarparu chwaraeon sy’n cael eu dominyddu gan ddynion, er enghraifft pêl-droed. Mae’r grŵp hefyd wedi trefnu i sefydliadau allanol gyflwyno sesiynau a diwrnodau blasu er mwyn ehangu’r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael i ferched gymryd rhan ynddyn nhw, ac maen nhw’n uwchsgilio gwirfoddolwyr fel rhan o’u prosiect.

Aneurin Leisure (Blaenau Gwent)

Fel hyfforddwyr cymunedol yn Aneurin Leisure, roedd Courtney, Alisha, Chelsea ac Elise yn awyddus i gymryd rhan ym mhrosiect ymchwil cymheiriaid Ni Ferched yng Nghymru.

Cynhaliodd y tîm ymgynghoriad ar draws y gymuned gan ganolbwyntio ar yr hyn yr hoffai merched yn yr ardal leol ei weld mewn sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Ar sail eu canfyddiadau, cyflwynwyd cynllun ganddyn nhw i’w gwneud yn haws i gyfranogwyr gyrraedd sesiynau trwy gynnig cludiant a chyflwyno sesiynau mewn tair ardal wahanol, a dyfarnwyd £15,791.50 o gyllid iddo.

Mae’r tîm wedi rhoi pwyslais gwirioneddol ar sicrhau bod sesiynau’n cael eu harwain gan gyfranogwyr, gyda chyfleoedd i bobl ifanc uwchsgilio. Hefyd, maen nhw eisoes yn creu cysylltiadau â phartneriaid i wneud eu prosiect yn gynaliadwy drwy weithio mewn partneriaeth â’r bwrdd iechyd lleol sy’n rhedeg prosiect llesiant yn eu cymuned.

Gwasanaeth Ieuenctid Powys (Powys)

Mae Jazmin, Tia, Caitlin a Jovi yn llysgenhadon ifanc sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Powys. Gofynnwyd iddyn nhw gymryd rhan ym mhrosiect Ymchwil Cymheiriaid Ni Ferched yng Nghymru.

Fel grŵp, cynhalion nhw ymchwil yn eu cymunedau ynghylch sut olwg y gallai fod ar gynnig deniadol i fenywod ifanc a merched yn eu cymuned. Dyfarnwyd £15,000 iddyn nhw ar gyfer eu cynnig i gyflwyno prosiect a fyddai’n darparu i ferched yn unig, gan gynnwys cynigion bwyd a chit, am flwyddyn, gyda’r nod o’i wneud yn gynaliadwy.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Powys bellach wedi cyflwyno sesiynau paffio i ferched yn unig, ac wedi dosbarthu tocynnau nofio am ddim i fenywod ifanc a merched yn y Drenewydd a’r Trallwng. Ar hyn o bryd, mae’r tîm wrthi’n creu calendr hyfforddi ar gyfer pobl ifanc sy’n ymwneud â’r prosiect. Maen nhw hefyd yn anelu at gynnig darpariaeth amgen yn ystod gwyliau ysgol lle bydd pobl ifanc yn gallu gadael eu cynefin a chael profiadau mewn ardaloedd a chyfleoedd eraill.

Clwb Bechgyn a Merched Treharris (Merthyr Tudful)

Fel aelodau hirsefydlog o Glwb Bechgyn a Merched Treharris, anogwyd Olivia, Elisha a Cadence i gymryd rhan ym mhrosiect ymchwil cymheiriaid Ni Ferched. Maen nhw i gyd yn

mynychu sesiynau ffitrwydd yn y clwb yn rheolaidd ac yn gweithio tuag at eu gwobrau Efydd Dug Caeredin.

Ar ôl cynnal ymchwil yn eu cymunedau, datblygon nhw gynllun uchelgeisiol i drawsnewid ystafell segur yn eu canolfan gymunedol a’i throi’n gampfa/stiwdio bwrpasol i ddarparu sesiynau i ferched yn unig, yn ogystal â gweithgareddau rheolaidd. Dyfarnwyd buddsoddiad o £16,576 i’w cynnig.

Mae Clwb Bechgyn a Merched Treharris bellach wedi adnewyddu’r ystafell segur a’i throi’n ystafell ymarfer corff/campfa i ferched yn unig, gan gynnwys waliau â drychau ar gyfer dawnsio ac offer campfa. Cyflwynodd StreetGames nhw i Morgan Sindall, a oedd yn gallu gwneud y gwaith heb unrhyw gost ychwanegol, ac a gyfrannodd £2000 tuag at rywfaint o offer campfa hefyd. Mae’r grŵp eisoes yn gweithio i wneud eu prosiect yn gynaliadwy, gan gynnwys cynhyrchu incwm trwy logi’r gofod pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.

Dyfarnwyd y Wobr Ennyn Diddordeb Menywod a Merched genedlaethol i’r grŵp yng Ngwobrau #Ysbrydoliaeth2022 StreetGames am eu prosiect arloesol a’u gwaith caled.

Darllen mwy o astudiaethau achos

Case Study Item
17 October 2024

An EPIC multisport offer for young people in Thanet

EPIC Street Sports is a vibrant and varied multisport programme designed to help young people in Thanet to get up, get out and get active in their own neighbourhood.

Case Study Item
16 August 2024

Mia champions the positive power of sport for women and girls

Mia's journey in sport from shy teenager to inspiring coach has not only transformed her own life chances, but also those of other girls and young women in her community.

Case Study Item
5 June 2024

Scott's volunteering journey with Active Hastings and StreetGames

Scott's journey from a young participant to a community role model and StreetGames Young Advisor is a testament to the power of Doorstep Sport.

Subscribe to our newsletter

Stay in touch with our work, unlock your fundraising potential and discover how we change lives!

"*" indicates required fields

Yes, I would like to subscribe to the StreetGames newsletter*