Mae StreetGames yn harneisio grym chwaraeon i greu newid cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol ledled y DU. Mae gwaith StreetGames yn helpu i wneud pobl ifanc a’u cymunedau yn iachach, yn ddiogelach ac yn fwy llwyddiannus.
Ynghylch Chwaraeon ar Garreg y Drws
Chwaraeon ar Garreg y Drws yw ein methodoleg brofedig ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc mewn cymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan sicrhau bod chwaraeon yn cael eu darparu mewn ffordd sy’n bleserus ac yn hygyrch i bobl ifanc yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Meysydd Gwaith
Mae StreetGames yn bodoli i bontio’r bwlch anghydraddoldeb o ran chwaraeon ar gyfer pobl ifanc o gymunedau incwm isel nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Gan weithio gyda’n partneriaid, rydyn ni’n darparu Chwaraeon ar Garreg y Drws i bontio’r bwlch anghydraddoldeb a chynnig chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ffordd sy’n diwallu anghenion a chymhellion ein buddiolwyr.
Prosiectau Byw
Gallwch ddysgu sut rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid ariannu a chymunedol i gyflwyno Chwaraeon ar Garreg y Drws i gymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol.