Er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth ynghylch cymhellion ac anghenion pobl ifanc yng Nghymru yn y byd ar ôl y pandemig, comisiynwyd StreetGames gan Chwaraeon Cymru ym mis Chwefror 2022 i gynnal prosiect ymchwil dau gam.
Roedd Cam Un y prosiect yn cynnwys ymchwil ddesg, a oedd yn canolbwyntio ar adolygu nifer o adroddiadau mewnwelediad allweddol a gyhoeddwyd rhwng 2019 a 2022 a nodwyd mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru. Cwblhawyd Cam Un y prosiect ym mis Ebrill 2022.
Cynhaliwyd Cam Dau yr astudiaeth hon rhwng Gorffennaf a Medi 2022, ac roedd yn cynnwys datblygu a chefnogi tri grŵp o bobl ifanc i weithredu fel Ymchwilwyr Cymheiriaid, a archwiliodd ganfyddiadau allweddol adolygiad desg Cam Un gyda’u cymheiriaid, i ddeall a oedd y canfyddiadau hyn yn adlewyrchu barn pobl ifanc sy’n byw mewn tair cymuned wahanol yng Ngwent.