Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith o dros 1,600 o sefydliadau cymunedol sy’n rhan o rwydwaith StreetGames. Ein nod yw sicrhau bod Chwaraeon ar Garreg y Drws yn hygyrch i bobl ifanc ledled y DU.
Ynghylch ein rhwydwaith
Mae gwaith StreetGames yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â rhwydwaith arbenigol o tua 1,600 o sefydliadau cymunedol, sy’n gweithio mewn cymunedau incwm isel nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol ledled y DU. Mae grym cyfunol a chyrhaeddiad y rhwydwaith yn galluogi mynediad heb ei ail i bobl ifanc sy’n cael eu magu mewn dros 4,000 o ardaloedd sydd wedi’u taro gan dlodi.
Mae rhwydwaith StreetGames yn agored i bawb; rydyn ni’n croesawu unrhyw sefydliad sydd â’r un diben â ni. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gefnogi sefydliadau cymunedol, sefydliadau ieuenctid a sefydliadau chwaraeon sy’n darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i bobl ifanc o gefndiroedd incwm isel.
Mae ein dull gweithredu craidd, sef Chwaraeon ar Garreg y Drws, yn weithgarwch sy’n cael ei ddarparu mewn cymunedau lleol yn y dull cywir, ar yr adeg gywir, am y pris cywir a gan y bobl gywir. Mae Chwaraeon ar Garreg y Drws yn ymyrraeth effeithiol i ysgogi diddordeb pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol ac fe’i cydnabyddir ar draws llawer o sectorau, gan gynnwys y sectorau chwaraeon, ieuenctid, diogelwch cymunedol ac iechyd.
Diben StreetGames yw helpu sefydliadau cymunedol i ddarparu Chwaraeon ar Garreg y Drws mewn ffordd sy’n cefnogi pobl ifanc i fod yn iachach, yn ddiogelach ac yn fwy llwyddiannus.
Ymunwch â’n rhwydwaith!
Gellir ymuno â’n rhwydwaith yn rhad ac am ddim, ac mae’n dod a llawer o fuddion i’n partneriaid cymunedol. Rydyn ni’n dwyn pobl a sefydliadau o’r un anian ynghyd i ddysgu, rhannu, hyfforddi, uwchsgilio, darparu a dathlu!
Ar gyfer Aelodau’r Rhwydwaith
Os ydych chi eisoes yn rhan o rwydwaith StreetGames, defnyddiwch yr adran hon i gael y newyddion, yr ymchwil a’r hyfforddiant diweddaraf sydd ar gael i aelodau’r rhwydwaith. Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i gwrdd â thimau rhanbarthol StreetGames.
Y Porth Prosiectau
Porth Prosiectau StreetGames yw lle gall sefydliadau/prosiectau wneud cais am ein gwahanol raglenni a chynigion. Hefyd, dyma’r ardal lle gallwch weld a rheoli pob cais a chyflwyno gwybodaeth i ni ar ffurf ceisiadau, cytundebau lefel gwasanaeth a chysoniadau ariannol.