Ein cenhadaeth yw trawsnewid bywydau pobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau incwm isel nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol trwy chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Yn darparu cynigion chwaraeon a gweithgarwch corfforol hygyrch a deniadol ar gyfer pobl ifanc
Rydyn ni’n credu mai hawl, nid braint, yw mynediad at chwaraeon a’r manteision sydd i hynny. Fodd bynnag, yn rhy aml o lawer, mae’r cyfleoedd i bobl ifanc sy’n cael eu magu mewn cymunedau ag incwm isel nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn gyfyngedig neu ddim ar gael o gwbl.
I bontio’r bwlch hwn o ran cyfleoedd, rydyn ni’n gweithio’n agos ag aelodau o’n rhwydwaith a’n partneriaid i ddatgloi’r llu o fanteision y gall gweithgarwch corfforol eu cynnig i blant a phobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Mae Chwaraeon ar Garreg y Drws wrth wraidd yr hyn a wnawn
Mae Chwaraeon ar Garreg y Drws wedi’u hategu gan y ‘pum hawl’: sef chwaraeon sy’n cael eu cyflwyno ar yr adeg gywir, yn y lle cywir, yn y modd cywir, gan y bobl gywir ac am y pris cywir.
Ni yw’r bobl wrth ochr y bobl sy’n newid bywydau a chymunedau
Ymunwch â miloedd o sefydliadau cymunedol eraill ledled y DU sy’n trawsnewid bywydau pobl ifanc drwy chwaraeon.
Cefnogi ein gwaith
Mae trawsnewid bywydau pobl ifanc drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn gofyn am bartneriaeth. Dyna pam rydyn ni’n awyddus i glywed gan ddarpar bartneriaid uchelgeisiol, ymrwymedig ac sydd â’r angerdd i greu cymunedau iachach, diogelach, mwy llwyddiannus drwy chwaraeon.
Ymgyrch Ysbrydoliaeth
The ‘Inspiration’ campaign, launched in 2022, brings the buzz and benefits of major sporting events right to the doorstep of young people.. It achieves this through providing event tickets, partnering with National Governing Bodies for sports access and training, and offering volunteering opportunities for invaluable experiences and skills development.
Cyfle i ddarganfod cyrsiau o’n Hacademi Hyfforddi arobryn
Mae hyfforddiant StreetGames yn datblygu’r gweithlu i sbarduno newid trwy feithrin sgiliau a gwybodaeth ym meysydd chwaraeon, gweithgarwch corfforol, diogelwch cymunedol, a lles meddyliol a chorfforol. Rydyn ni’n gweithio gyda sefydliadau i goleddu talent a datblygu meysydd arbenigedd newydd. Rydyn ni’n cyflwyno hyfforddiant i staff, myfyrwyr, prentisiaid, gwirfoddolwyr, gweithwyr ieuenctid ac arweinwyr ifanc.
Archwilio ein hymchwil a’n mewnwelediadau
Darllenwch ein hadroddiadau ymchwil a mewnwelediadau ynghylch yr hyn sy’n gwneud Chwaraeon ar Garreg y Drws yn ddull gweithredu effeithiol, a sut mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc.
I mi, ystyr StreetGames yw amgylchedd cynhwysol, lle caiff pawb yr un mynediad at chwaraeon, ni waeth o ble rydych chi’n dod, pwy ydych chi, neu faint o arian sydd gennych chi.
Y meddyliau a’r newyddion diweddaraf gan StreetGames
Os hoffech chi wybod beth sy’n digwydd yn StreetGames, beth am ddarllen ein newyddion a’n herthyglau blog diweddaraf?