Edrychwch ar ein hymchwil a’n mewnwelediadau a chysylltu â ni os ydych chi eisiau siarad â ni am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
Ein hymrwymiad i ddysgu
Yn StreetGames, rydym wedi ymrwymo i ddysgu beth sy’n gweithio o ran cefnogi plant a phobl ifanc mewn cymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol i’w denu i chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac i archwilio’r ffyrdd y gall chwaraeon helpu i wneud pobl ifanc a’u cymunedau’n iachach, yn fwy diogel ac yn fwy llwyddiannus.
Mae ein Tîm Gwybodaeth a Mewnwelediadau yn tynnu ynghyd brofiad bywyd pobl ifanc gydag arbenigwyr o feysydd arweinyddiaeth chwaraeon, y byd academaidd a’r maes llunio polisi i ddatblygu arfer gorau a dysgu mwy am sut y gall chwaraeon gryfhau cymunedau lleol a mynd i’r afael â heriau cymdeithasol ehangach.
StreetGames – Theori Newid / Theory of Change
Mae ein hadroddiad Theori Newid / Theory of Change yn dangos sut a pham mae newid cadarnhaol yn digwydd pan gaiff cyfleoedd Chwaraeon ar y Garreg Drws eu darparu mewn cymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol.
Bag Nwyddau Monitro & Gwerthuso
Rydym wedi curadu ‘Bag nwyddau’ Monitro a Gwerthuso defnyddiol sy’n cynnig awgrymiadau a theclynnau i gynorthwyo LTOs (Sefydliadau yr Ymddiriedir ynddynt yn Lleol) i ddangos effaith eu gwaith yn effeithiol, gan fynd i’r afael â materion cyffredin fel casglu data, methodoleg a phryderon o ran capasiti.